Gwobr Goffa G.J. Williams
01/09/2011
Llongyfarchiadau mawr i Jessica Rumble o'r flwyddyn gyntaf ac Owain Lewis o’r drydedd flwyddyn ar ennill Gwobr Goffa G.J. Williams 2011.Dyfernir yr ysgoloriaethau hyn i'r ymgeiswyr a chanddynt y canlyniadau gorau ar draws y flwyddyn.
Bydd Owain Lewis, sydd hefyd wedi ennill ysgoloriaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn dychwelyd i’r Ysgol ym mis Medi i astudio ar gyfer MPhil mewn Astudiaethau Celtaidd.
