Cysylltu Prifysgol Caerdydd a Phatagonia
23/02/2010
Mae staff o Brifysgol Genedlaethol Patagonia San Juan Bosco yn Ariannin yn ymweld ag Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd am bythefnos fel rhan o gynllun a gefnogir gan Banco Santander. Bydd eu hymweliad yn eu galluogi nhw ac aelodau o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymry America sy’n rhan o Ysgol y Gymraeg, i drafod a lledaenu agweddau o’u hymchwil ar fywyd, hanes a diwylliant y wladfa Gymreig a sefydlwyd ym Mhatagonia ym 1865.
Yn ystod eu hymweliad byddant yn cymryd rhan mewn Symposiwm ar y Cymry ym Mhatagonia ac yn ymweld â mannau o ddiddordeb i’w hymchwil, gan gynnwys y Senedd, Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon ac Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Bydd yr ymweliadau hyn yn fodd i hybu’n sylweddol y berthynas rhwng Cymru a Phatagonia ym myd addysg uwch ac ymchwil academaidd, a’r holl fudd addysgol, economaidd a diwylliannol a ddaw o hynny.
Erthygl a gyhoeddwyd mewn papur newydd yn Comodoro Rivadavia, Chubut, lleoliad Prifysgol Patagonia
