Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

John Caulfield yn ymuno â’r Ysgol

02/02/2010

John Caulfield

Mae John Caulfield, sy’n dod yn wreiddiol o Wexford yn Iwerddon, wedi ymuno ag Ysgol y Gymraeg fel myfyriwr PhD. Graddiodd mewn Astudiaethau Cyfathrebu o Brifysgol Dinas Dulyn a dyfarnwyd iddo radd MA mewn Hysbysebu o Athrofa Technoleg Dulyn. Aeth yn ei flaen i weithio yn y cyfryngau yn Iwerddon ac yna yn Lloegr.

Mae PhD John ar yr iaith Wyddeleg (Cynllunio Ieithyddol/Sosioieithyddiaeth). Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sut y gellir defnyddio’r rhyngrwyd i greu cymunedau o ieithoedd lleiafrifol. Ariennir y PhD gan lywodraeth Iwerddon. Fel rhan o’r cytundeb bydd yn dysgu Gwyddeleg i Ddechreuwyr yn yr Ysgol er mwyn hyrwyddo’r Wyddeleg a’r diwylliant Gwyddeleg ym Mhrifysgol Caerdydd.