Ysgol y Gymraeg yn noddi Gwobrau CBAC
12/01/2010
Eleni, mae Ysgol y Gymraeg wedi noddi dwy wobr a drefnir gan Gyd-Bwyllgor Addysg Cymru. Cyflwynir y gwobrau i’r myfyrwyr safon Uwch a enillodd y marciau uchaf yn arholiadau mis Mehefin 2009. Enillydd y wobr Cymraeg Iaith Gyntaf oedd Osian Gruffudd o Goleg Meirion Dwyfor ac enillydd y wobr Cymraeg Ail Iaith oedd Alice Elizabeth Thompson o Ysgol y Pant, Pontyclun.
