Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

T. James Jones yn cael ei enwi’n Archdderwydd

22/02/2010

T. James Jones

Y Prifardd T. James Jones, Jim Parc Nest, sy’n ddarlithydd cysylltiol yn Ysgol y Gymraeg, yw Archdderwydd etholedig newydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd yn cael ei sefydlu yn y swydd ddechrau Gorffennaf yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Wrecsam a bydd wrth y llyw yn Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd ym mis Awst. Fe fydd Jim Parc Nest yn olynu'r diweddar Dic Jones.

Enillodd T. James Jones Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn 1986 a 1988 cyn ennill y Gadair yn Eisteddfod Sir y Fflint a'r Cyffiniau yn 2007. Fe fu'n weinidog ac yn ddarlithydd yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin cyn mynd yn Olygydd Sgriptiau Pobol y Cwm.