Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cynhadledd ‘Cymraeg mewn Busnes’ Ysgol Uwchradd Fitzalan

07/01/10

Ym mis Rhagfyr gwahoddwyd Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd. Daeth cyflogwyr a chynrychiolwyr gwahanol sefydliadau ynghyd i siarad â disgyblion Blwyddyn 9 am bwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle gan roi’r cyfle iddynt dderbyn gwybodaeth o lygad y ffynnon cyn dewis eu pynciau ar gyfer TGAU.

Mynychodd dros 200 o ddisgyblion y gynhadledd a phob un yn ymweld â stondin Ysgol y Gymraeg. Cawsant wybod am y rhychwant o yrfaoedd sydd ar gael i’r rheiny â gradd yn y Gymraeg. Dywedodd Sarah Davies, Pennaeth Adran Gymraeg yr Ysgol “dyma'r gynhadledd fwyaf llwyddiannus rydym wedi ei chynnal gan fod y plant wedi ymateb mor gadarnhaol i’r cyfraniadau.”

Bydd Ysgol y Gymraeg yn adeiladu ar y cysylltiad â Fitzalan drwy gyfrannu at  ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.