Cymrawd Fulbright yn ymweld â'r Ysgol
07/10/2009
Ym mis Medi 2009, daeth Dr Sarah Campbell atom ar ysgoloriaeth Fulbright o'r Unol Daleithiau. Bydd hi'n cynnal seminar ymchwil ar 13 Hydref 2009 o'r enw‘Late Medieval Welsh Dramatic Texts Do Exist: A Close Look at 'Y Gwr Kadarn’.
Dyma gyfweliad byr â hi lle mae hi'n trafod ei chefndir, ei gwaith a'r seminar ei hun...
Dywedwch ychydig wrthym am eich cefndir?
Mae gennyf Ddoethuriaeth mewn Drama Ganoloesol, yn benodol dramâu canoloesol Lladin, dramâu crefyddol a seciwlar, a dramâu canoloesol yn y Saesneg, y Gernyweg a’r Gymraeg. Cefais fy nenu at ddramâu Cymraeg gan fod cyn lleied o ymchwil wedi cael ei wneud amdanynt. Cyhoeddwyd y gwaith diweddaraf bron i ganrif yn ôl. Nid yw’r ddrama ‘Y Gwr Kadarn’ wedi bod ar gael i ysgolheigion. Rwyf yn bwriadu cyhoeddi a pherfformio’r gwaith.
A ydych yn credu y gall drama ganoloesol weithio gyda chynulleidfa fodern?
O’m profiad i, gall weithio. Nid yw’n ddrama gymhleth ac mae digon o eiliadau doniol i bawb!
Beth y byddwch yn ei drafod yn y seminar‘Late Medieval Welsh Dramatic Texts Do Exist: A Close Look at Y Gwr Kadarn’?
I ddechrau, byddaf yn siarad yn fras am wahanol fathau o ddramâu canoloesol yn Lloegr, ac yna byddaf yn mynd ymlaen i sôn am yr hyn sydd wedi cael ei astudio yn y Gymraeg. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn grefyddol. Yna, byddaf yn gofyn y cwestiwn, “Ai gwaith gwreiddiol yn y Gymraeg yw hwn, neu cyfieithiad o’r Lladin neu’r Saesneg?” ac “A berfformiwyd y gwaith?”. Byddaf yn siarad hefyd am y ddrama ei hun. Mae’n cynnwys rhai cymeriadau a syniadau stoc - ac mae’n ddrama foes ac yn anterliwt, a dyna sy’n ei gwneud yn ddiddorol...ac yn Gymreig!
Soniwch ychydig am Ysgoloriaeth Fulbright?
Nod Ysgoloriaeth Fulbright yw dod ag ysgolheigion o’r Unol Daleithiau a gwledydd a diwylliannau gwahanol ynghyd. Ar hyn o bryd mae oddeutu 30 yn derbyn yr ysgoloriaeth yn y DU, mae 8 yn ysgolheigion ymchwil ac addysgu ac mae’r gweddill yn fyfyrwyr ôl-raddedig. Roeddwn wrth fy modd yn derbyn y grant! Roedd yn rhaid i mi astudio yng Nghymru, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl fel arall.
Sut y gwnaethoch fagu diddordeb yn y maes hwn?
O ran dramâu canoloesol Cymraeg, roedd fy nhad-cu’n Gymro, ac roeddwn i wedi bod yn astudio Cymraeg Canol. O’m profiad i mae dramâu canoloesol yn amrywiol iawn. Maent yn real ac yn onest, yn aml mewn ffordd feiddgar. Os cânt eu perfformio’n briodol gall fod yn brofiad hynod bwerus.
