Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cryfhau ein perthynas â'r Wladfa

27/02/09

Banco Santander yn cwrdd â Phrifysgol Caerdydd fis Medi 2008

Mae gan Ysgol y Gymraeg nifer o gysylltiadau â’r Wladfa ym Mhatagonia, rhai ohonynt yn ymestyn yn ôl dros flynyddoedd lawer.

Ac mae cynlluniau ar y gweill a fydd yn datblygu ein perthynas hyd yn oed ymhellach.

Mae Banco Santander yn noddi cynlluniau sy’n hybu cysylltiadau rhwng prifysgolion yn Ewrop a rhai yn Ne America. Prifysgol Caerdydd yw’r brifysgol gyntaf yng Nghymru i ddod yn bartner yn rhwydwaith rhyngwladol ‘Prifysgolion Santander’. Arwyddwyd cytundeb cydweithredu ym mis Medi 2008 rhwng Prifysgol Caerdydd ac Abbey National, is-gwmni Banco Santander ym Mhrydain, a fydd yn galluogi Prifysgol Caerdydd i sefydlu nifer o gysylltiadau ymchwil a dysgu â phrifysgolion yn Ne America sy’n rhan o rwydwaith ‘Prifysgolion Santander’.

Mae hwn yn ddatblygiad arbennig o gyffrous yn achos Ysgol y Gymraeg, oherwydd fe fydd nawdd Banco Santander yn ein caniatáu i ddatblygu cysylltiadau â nifer o sefydliadau addysg uwch ym Mhatagonia, ac yn enwedig â Phrifysgol Genedlaethol Patagonia yn Nhrelew.

Fel cam cyntaf yn y cydweithio hwn, bydd nifer o staff Ysgol y Gymraeg yn ymweld â’r Wladfa yng ngwanwyn 2009 (hynny yw, gwanwyn Cymru gan y bydd yn hydref yn y Wladfa!). Yn eu plith bydd arbenigwyr ar ddysgu Cymraeg i oedolion a chynllunio ieithyddol, ac ar lenyddiaeth a hanes y Wladfa.

Bwriad yr ymweliad cyntaf hwn fydd gosod y sylfeini ar gyfer cydweithio pellach, a’r nod dros y blynyddoedd nesaf yw gweld ffrwd reolaidd o staff a myfyrwyr o Ysgol y Gymraeg yng Nghaerdydd yn mynd draw i astudio ac ymchwilio am gyfnodau ym Mhatagonia, a ffrwd o staff a myfywyr o Batagonia yn dod yn eu tro i astudio ac ymchwilio yng Nghaerdydd.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Banco Santander am y nawdd hael hwn sy’n cynnig cyfle gwych i gryfhau ymhellach berthynas Ysgol y Gymraeg â’r Wladfa ym Mhatagonia. Bydd yn fodd i hybu’n sylweddol y berthynas rhwng Cymru a Phatagonia ym myd addysg uwch ac ymchwil academaidd, a’r holl fudd addysgol, economaidd a diwylliannol a ddaw o hynny.