Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Llwyddiant llyfr y Dr Juliette Wood

06/02/2009

Juliette Wood

Llongyfarchiadau i’r Dr Juliette Wood ar lwyddiant ei chyfrol ddiweddar, The Eternal Chalice, a gyhoeddwyd gan I.B. Tauris yn 2008. Mae’r llyfr wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Samuel Johnson.

Mae’r wobr hon, a noddir gan BBC4, yn dathlu pob math o ysgrifennu  ffeithiol gan gynnwys llyfrau ar faterion cyfoes, y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon, teithio, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth, hanes yn ogystal â bywgraffiadau a hunangofiannau.

Cewch wrando ar y Dr Wood ar BBC Radio 4 yr wythnos hon – bydd yn cyfrannu i raglen Melvyn Bragg ‘In Our Time’, yn trafod chwedlau’r Brodyr Grimm.
Bydd modd gwrando eto trwy glicio uchod.