Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Llwyddiant Ysgubol yn Eisteddfod Ryng-Golegol 2009

15/03/2009

Aelodau'r Gym Gym yn dathlu eu diwrnod buddugoliaethus

Prifysgol Caerdydd a ddaeth i’r brig yn yr Eisteddfod Ryng-Golegol yn Abertawe eleni wrth i’r Gym Gym ddisgleirio yn y rhan fwyaf o’r cystadlaethau.
Bu cryn ddathlu, gan mai eleni oedd y tro cyntaf ers blynyddoedd lu i Gaerdydd ddod yn fuddugol.

Yn ôl Huw Foulkes, sy’n fyfyriwr MA yn yr Ysgol:

“Fe ddechreuodd yr Eisteddfod gyda’r unawdau a’r ensembles, a Chaerdydd yn cipio’r rhan fwyaf o’r gwobrau cyntaf.  Yna daeth hi’n amser i wobrwyo llenorion yr Eisteddfod a’r ddwy brif wobr, sef y Gadair a’r Goron, yn dod i’r brifddinas. Anni Llŷn a gipiodd y Goron am stori fer ar y testun Goleudy a Llŷr Gwyn Lewis a gipiodd ei ail gadair Ryng-Golegol am awdl ar y testun Libart. Cipiodd Gwilym Dwyfor y Fedal Ddrama am yr ail flwyddyn o’r bron.”

Mae’r tri yn fyfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg!

Yn dilyn y cystadlu brwd ymgasglodd torf yn yr Undeb i fwynhau perfformiadau gan artistiaid megis Gwibdaith Hen Fran, Fflur Dafydd a’r Barf a Derwyddon Dr Gonzo.

Llongyfarchiadau mawr i bob un a gymerodd ran!