Arbenigedd yn dod o Tsieina i Gaerdydd
17/02/2009
Dr Qi Yan yn rhannu technegau er mwyn gwella dysgu'r Gymraeg fel ail iaith
Bydd dulliau dysgu'r Saesneg fel ail iaith yn Tsieina yn cael eu rhannu gyda staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg a’i Chanolfan Cymraeg i Oedolion, fel rhan o brosiect ymchwil cyffrous.
Dros y tri mis nesaf bydd y Dr Qi Yan o Brifysgol Nanjing yn ymchwilio yn Ysgol y Gymraeg gan gydweithio â myfyrwyr a staff i arbrofi gyda thechnegau penodol a ddefnyddir yn Tsieina wrth addysgu'r Saesneg.
Mae’r technegau hyn yn seiliedig ar ddysgu brawddegau, dywediadau a thestunau ar y cof – fe gyfeirir at hyn fel ‘iaith fformiwläig’, sydd yn hybu rhuglder a chywirdeb. Bydd y Dr Qi Yan yn gofyn a yw technegau o’r fath yn medru bod o gymorth wrth ddysgu’r treigliadau yn benodol.
Yn ôl yr Athro Alison Wray (o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth) sy’n cydweithio gydag Ysgol y Gymraeg ar y prosiect hwn, ac yn teithio i Beijing a Nanjing yng nghyfnod nesaf y prosiect: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu'r Dr Qi Yan i’r Brifysgol fel rhan o’r prosiect ymchwil unigryw yma. Gobeithio y bydd y canfyddiadau o fudd i ddysgwyr ac i diwtoriaid y Gymraeg wrth inni archwilio’r cyfleoedd a ddaw wrth fabwysiadu technegau Tsienîeg o ddysgu ac addysgu.”
Mae ymweliad y Dr Qi yn dilyn taith i Nanjing gan y Dr Tim Jilg, Ymchwilydd yn Ysgol y Gymraeg, lle bu'n arsylwi dosbarthiadau ac yn cynnal arbrofion gyda myfyrwyr Tsieineeg sy’n dysgu'r Saesneg fel ail iaith.
