Casglu arian i Blant mewn Angen
26/11/2009
Yr wythnos ddiwethaf bu Ysgol y Gymraeg yn brysur yn casglu arian ar gyfer Plant mewn Angen 2009. Gofynnwyd i’r myfyrwyr edrych ar luniau o aelodau’r staff yn blant a dyfalu ‘Pwy yw Pwy’. Roedd gwobrau i’r rheiny a ddaeth i’r brig:
1. Lisa Williams, Blwyddyn Olaf
2. Dr Diana Luft, Staff Ymchwil
3. Osian Gruffydd, Blwyddyn Gyntaf
4. Lisa Sheppard, Blwyddyn Olaf
Erbyn diwedd yr wythnos casglwyd £142.42. Llongyfarchiadau i’r enillwyr a diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd.
