Angharad George yn cwblhau PhD
16/11/2009
Llongyfarchiadau mawr i Angharad George ar gwblhau ei thraethawd PhD yn llwyddiannus. Teitl y traethawd yw: ‘Mwtlai wyd di’?: Ôl-drefedigaethedd, Cymru’r Oesoedd Canol a Dafydd ap Gwilym.’
Dilynodd Angharad gwrs BA ac MA yn y Gymraeg yn yr Ysgol cyn mynd ati i gwblhau’r traethawd PhD. Mae bellach yn diwtor yma ac yn dysgu ar y Cynllun Sabothol Cenedlaethol ac ar gyrsiau iaith a llenyddiaeth myfyrwyr israddedig yr Ysgol.
