Cyhoeddi cyfrol newydd
10/06/09
Cyhoeddwyd cyfrol newydd gan y Dr Simon Brooks, Yr Hawl i Oroesi, gyda lansiad llwyddiannus, a nifer o gyfweliadau ar y cyfryngau. Casgliad o "ysgrifau gwleidyddol a diwylliannol" yw'r gyfrol, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o'i gyfnod yn olygydd y cylchgrawn materion cyfoes, Barn. Yn ei gyflwyniad i'r gyfrol, dywed Dafydd Glyn Jones fod y "pedwar ugain mlynedd 1926-2006 yn cynnwys tri chyfnod euraid o ran ysgrifau golygyddol cylchgronau Cymraeg. [...] Un ohonynt oedd cyfnod Simon Brooks yng ngolygyddiaeth Barn, y deng mlynedd 1996-2006.”
