Amser i Farddoni
06/04/2009
Llongyfarchiadau i Llion Pryderi Roberts sy'n Ymchwilydd Cynorthwyol yn yr Ysgol, ar ennill Ysgoloriaeth Awdur Newydd yr Academi.
Bydd yr ysgoloriaeth, sydd werth £4,800 yn rhoi cyfle iddo ganolbwyntio ar ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth.
Ei fwriad yw cyhoeddi cyfrol o gerddi, caeth a rhydd, ar y thema 'Amser'.
