Ysgoloriaeth Emyr Feddyg
16/09/09
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2009 i Llion Pryderi Roberts, Tiwtor Iaith yn Ysgol y Gymraeg, am bennod gyntaf ei nofel Llewych. Sefydlwyd yr Ysgoloriaeth hon i hyfforddi llenor neu fardd na chyhoeddwyd cyfrol o'i waith eisoes ac fe’i dyfernir gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol i'r cystadleuydd mwyaf addawol. Bwriad Llion yw mynd ati i gwblhau’r nofel a fydd yn ymdrin â’r thema oesol honno - amser. Llongyfarchiadau mawr iddo a phob hwyl iddo gyda’r ysgrifennu.
