Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Llwyddiant Ysgubol yn yr Urdd

01/06/2009

 

Cafodd Aelwyd y Waun Ddyfal lwyddiant arbennig yn Eisteddfod yr Urdd eleni, dan arweiniad Huw Foulkes sy’n dilyn cwrs MA yn y Gymraeg (Llwybr Ysgrifennu Creadigol). Mae’r myfyrwyr a enwir isod i gyd yn astudio yn Ysgol y Gymraeg:

1af    Côr SATB dan 40 o leisiau
1af    Côr SATB dan 30 o leisiau
1af    Côr Merched
1af    Parti Cerdd Dant
1af    Pedwarawd Cerdd Dant – Elliw Mai, Anni Llyn, Huw Foulkes a         Steffan Watkins
1af    Llefaru Unigol - Hanna Hopwood
1af    Unawd Cerdd Dant - Elliw Mai
1af    Unawd - Anni Llyn
2il     Côr Bechgyn
2il     Llefaru Unigol - Anni Llyn
2il     Ensemble Lleisiol
3ydd Alaw Werin Unigol - Elliw Mai
3ydd Grŵp Dawnsio Gwerin

Enillodd Anni Llyn Dlws Talent Radio Cymru a bydd Anni, Elliw, a Hanna yn mynd ymlaen i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm, ar Hydref 10fed. Byddwn i gyd yno yn eu cefnogi!

Dolenni cyswllt