Cymraeg ag acen Sbaenaidd
19/10/2009
Am wythnos ym mis Hydref bydd Walter Brooks, cynorthwyydd ymchwil a thiwtor iaith yn Ysgol y Gymraeg, yn mynychu cynhadledd yr American Folklore Society yn Boise, Idaho. Mae’r American Folklore Society yn gymdeithas sy’n ymwneud â llên gwerin ar draws y byd gan gynnal ac ariannu prosiectau yn y maes. Eleni, thema eu cynhadledd flynyddol yng Nghanolfan Boise yw “Examining the Ethics of Place”. Bydd papurau a chyflwyniadau amrywiol yn cael eu traddodi yn edrych ar ffyrdd y mae diwylliannau llên gwerin yn rhyngweithio â’r amgylchedd o’u cwmpas.
Prif faes ymchwil Walter yw’r Wladfa Gymreig yn yr Ariannin. Bydd yn aelod o banel mewn sesiwn sy’n dwyn y teitl “Welsh with a Spanish Accent: Research, Documentation and Identity in Welsh Patagonia”. Ym mis Hydref 2008, ymunodd Walter â thîm o fideograffwyr o Amgueddfa’r Smithsonian a dreuliodd ddeng diwrnod yn ffilmio Eisteddfod flynyddol Trelew ym Mhatagonia. Bydd yn sôn am ei brofiadau ac yn trafod yr hyn y gellir ei ddysgu, a’r hyn na ellir ei ddysgu am le a phobl mewn cyfnod byr.
