Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cwrw am ddim

17/07/2009Clawr Cwrw am ddim

Nid yn aml y bydd myfyriwr israddedig yn cyhoeddi cyfrol yn ystod ei gwrs gradd. Ond nid myfyriwr cyffredin mo Chris Cope. Dair blynedd yn ôl daeth yr Americanwr i sylw’r cyhoedd ar ol iddo ddysgu’r Gymraeg ar y we; yna dilynodd gwrs gradd yn y Gymraeg yma yng Nghaerdydd ac y mae newydd raddio eleni. Mae hefyd yn ffigwr adnabyddus ym myd seibr y blogwyr, ac y mae ganddo golofn yn Barn.

Llyfr am ei brofiadau fel dysgwr yw Cwrw am ddim (Gwasg Gomer, £7.99), llyfr sy’n llawn hiwmor a ffraethineb wrth i’r awdur ddisgrifio ei helyntion yn ymdrechu i ddysgu’r iaith. Edrychwn ymlaen at ail gyfrol, ac yntau newydd gael ei dderbyn ar ein cwrs MA yn y Gymraeg (Llwybr Ysgrifennu Creadigol).