Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Cerys Matthews yn dod yn ôl i Ysgol y Gymraeg

08/06/2009Cerys Matthews

Rai blynyddoedd yn ôl, astudiodd y gantores Cerys Matthews y Gymraeg yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Mewn rhaglen ar BBC2 nos Wener, 12 Mehefin, fe’i gwelir yn siarad ag un o’i chyn-ddarlithwyr, yr Athro Sioned Davies. Yn ‘My Life in Verse’, mae Cerys yn edrych ar rôl y bardd yn y gwledydd Celtaidd gan roi sylw arbennig i’r canu cynganeddol. Cafodd gryn sioc – a phleser – i ddarganfod fod y prifardd Ceri Wyn Jones wedi cyfansoddi cywydd iddi: ‘Cerys Catatonia’. Yn ystod ei hymweliad, cafodd Cerys gyfle hefyd i gyfarfod â rhai o fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol yr Ysgol.