Aduniad ar faes yr Eisteddfod
17/07/2009

Cynhelir aduniad i gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol yr Ysgol am 1.00 bnawn Iau 6ed o Awst ym Mhabell Prifysgol Caerdydd. Yna am 2.30 cynhelir sesiwn o’r enw ‘Cyw Lenorion Caerdydd’, sef myfyrwyr cyfredol yr Ysgol yn darllen detholiad o’u gwaith creadigol. Mae croeso mawr i ddarpar fyfyrwyr fynychu a chael gwybod mwy am ein modiwlau Ysgrifennu Creadigol a Sgriptio.
Dewch yn llu!
