Adar Drycin
09/06/09
Ym mis Mehefin cafwyd perfformiad cyntaf Cwmni Drama Ysgol y Gymraeg, dan gyfarwyddyd Ceri Elen, ein Tiwtor Ysgrifennu Creadigol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Ysgol ei hun, a gwnaethpwyd deunydd unigryw o’r coridor hir ac ystafell seminar 1.69! Perfformiwyd golygfeydd o chwe drama gan naw o fyfyrwyr yr Ysgol, gan gynnwys Perthyn, Saer Doliau a Bobi a Sami. Y bwriad oedd codi cwestiynau ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng realaeth a naturiolaeth, ac abswrdiaeth, pwnc y bu Ceri yn ei drafod gyda’r myfyrwyr israddedig ar y modiwl ‘Y Ddrama Gyfoes’ eleni. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol a’r perfformiad o safon uchel iawn. ‘Nid wyf wedi gweld gwell ar lwyfan cenedlaethol’ oedd sylw un o’r gynulleidfa.
