Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Ysgol y Gymraeg yng Ngŵyl Smithsonian

26/06/09

Bydd gan Washington DC, prifddinas yr Unol Daleithiau, ymdeimlad cryf o Gymreictod, gan mai Cymru fydd y brif wlad yng Ngŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian 2009 (24 Mehefin – 5 Gorffennaf). Bydd ardal Cymru yn yr ŵyl, a fydd tua phedwar cael pêl-droed o faint, yn cynnig blas o fywyd diwylliannol Cymru i ymwelwyr drwy amrywiad o safleoedd thematig.

Bydd Walter Ariel Brooks yn rhan o weithgarwch yr ŵyl, a gynhelir ar y National Mall. Bydd yn siarad am faes ei ddiddordebau ymchwil, sef Y Wladfa, yn ogystal â’i brofiad fel Patagonwr sydd yn siarad Cymraeg ac sydd erbyn hyn wedi ymgartrefu yng Nghymru. Hefyd bydd cyfle i gymharu gwahanol agweddau ar fywyd diwylliannol Cymru a Phatagonia.

Bydd yr ŵyl, sydd yn cael cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Smithsonian Institution, yn gyfle unigryw i hybu proffil Cymru’n rhyngwladol.