5 Ysgoloriaeth Ôl-raddedig ar gael
30/03/2009
Rydym yn cynnig 5 ysgoloriaeth (ffioedd yn unig) am y flwyddyn 2009-2010 ar gyfer y canlynol (llawn-amser a rhan-amser):
- MA yn y Gymraeg gan gynnwys llwybrau Ysgrifennu Creadigol, Cynllunio Ieithyddol, Hunaniaeth
- MA mewn Astudiaethau Gwerin
- MPhil/PhD mewn meysydd sydd yn adlewyrchu arbenigedd y staff, e.e.
Y Mabinogion, Y Faled a’r Emyn, Llenyddiaeth Plant, Theori Lenyddol, Barddoniaeth Ganoloesol, Rhyddiaith Ddiweddar, Aml-ddiwylliannedd, Cynllunio Ieithyddol, Sosioieithyddiaeth, Cymraeg i Oedolion, Cymry America (gan gynnwys Patagonia), Ysgrifennu Creadigol
Am ragor o fanylion cysylltwch â'r Swyddog Derbyn:
E-bost: cymraeg@caerdydd.ac.uk
Ffôn: (029) 2087 4843
