'Niwtraleiddio'r' Gymraeg ym Mhatagonia
07/10/08

Mewn erthygl yn rhifyn mis Hydref 2008 o gylchgrawn Y Traethodydd dywedodd Walter Brooks, sy'n Gynorthwyydd Ymchwil a Thiwtor Iaith yn yr Ysgol, i'r Llywodraeth ym Mhatagonia ddefnyddio'r ysgolion i 'Archenteiddio' plant y Cymry a'u gwneud yn Archentwyr i'r carn oherwydd ei bod yn gweld y Gymraeg fel gelyn i undod yr Ariannin.
Yn Polisïau Addysg, Iaith a Hunaniaeth yn y Wladfa (1900-1946) dadleua fod pob pwnc yn yr ysgol gynradd yn cael ei ddefnyddio i gryfhau'r ymdeimlad cenedlaethol:
"Mae modd gwneud gosodiadau gwladgarol wrth ddysgu pwnc fel Glendid hyd yn oed," meddai cyhoeddiad swyddogol y Cyngor Cenedlaethol Addysg ym 1908.
Ac yn Nyffryn Camwy dywed i athrawon Cymreig Trelew a Gaiman gael eu disodli gan athrawon Archentaidd er mwyn sicrhau mai "Sbaeneg yn unig fyddai iaith y cyfathrebu a'r diwylliant Archentaidd, yr unig un dilys," meddai Walter Brooks.
Ychwanega fod deddfau eraill hefyd yn gymorth i niwtraleiddio'r rhai a allai dynnu'n groes â'r system a gorfodwyd dynion i wneud gwasanaeth milwrol er mwyn eu trwytho yn symbolau'r wlad newydd, ac roedd dylanwad y fyddin a'r llynges yn drwm ar ysgolion Patagonia.
O ganlyniad peidiodd llawer o Gymry ifanc â siarad Cymraeg ymysg ei gilydd a chyda'u plant o fewn cenhedlaeth hyd yn oed mewn llefydd fel y capel a'r ysgol Sul.
