Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Llwyddiant i'r myfyrwyr yn y Stomp

13/11/08

Stôl a choron y Stomp

Cynhaliwyd Stomp lwyddiannus yn Undeb y Myfyrwyr nos Fercher 12fed Tachwedd, pryd y cafwyd cystadlu brwd rhwng myfyrwyr a staff Ysgol y Gymraeg.


Daeth dros 100 o fyfyrwyr ynghyd i fwynhau'r noson o farddoni a sylwebaeth ffraeth yng nghwmni Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood.


Cipiwyd y gadair gan Llŷr Lewis (myfyriwr Blwyddyn 3) am ei gywydd 'Cysur'. Llŷr hefyd a enillodd y goron, am y limrig orau. Tîm y myfyrwyr oedd yn fuddugol ar ddiwedd y noson.

Dyma ddarn o gywydd buddugol Llŷr Lewis:

Llŷr gyda'i goron a'i gadair a'r prif-feirdd

Cysur (11.11.08)

Heno, pabi, nid pobol

Yn drwch a gludir ar drol

O gaeau'r Somme, a'r bomio,

Er y cur, yn llithro o'r co'

A phridd ac afonydd Ffrainc.

Ond diau bydd yr ieuainc

Yn ymladd a lladd mewn lle

Arall erbyn y bore.

O'n moeth, ac o'n esmwythyd

Fe'n deffrir â'r gwir i gyd.