Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Gŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian 2009

01/09/08

Dr E Wyn James

Mae'r Ysgol yn cydweithio â Sefydliad y Smithsonian, wrth iddynt baratoi rhaglen arbennig ar ddiwylliant gwerin Cymru ar gyfer yr Ŵyl Bywyd Gwerin yn 2009.

Bu Dr Siwan Rosser yn cynnal cyfweliadau ag artistiaid Cymreig dros yr haf a bydd Walter Brooks yn teithio i'r Wladfa yn yr hydref i gasglu gwaith maes am ddiwylliant Cymreig yr ardal.

Bydd dirprwyaeth o Gymru yn teithio i Washington fis Mehefin nesaf i gymryd rhan yn yr Ŵyl. Yn grefftwyr, chwedleuwyr ac artistiaid o bob math, byddant yn cyflwyno arferion traddodiadol a chyfoes y Cymry ar lwyfan eang y 'National Mall' ac i sylw dros filiwn o ymwelwyr.