Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Stomp i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi

03/03/2008

I ddathlu dydd Gŵyl Ddewi eleni fe gafwyd noson hwyliog o farddoni, cynganeddu a miri rhwng staff a myfyrwyr yr Ysgol mewn Stomp arbennig yn Undeb y Myfyrwyr.

Bu cystadlu brwd rhwng y staff a'r myfyrwyr drwy gydol y noson, wrth i'r awen a'r cwrw lifo! Mererid Hopwood fu'n llywio'r noson, ac fe fu'r sgoriau yn gyfartal hyd nes i limrig dyngedfennol Ceren Roberts sicrhau buddugoliaeth i'r Staff a chipio Stôl y Stomp.