Storïwr rhyngwladol yn ymweld â'r Ysgol
24/11/08

Croesawyd y storïwr rhyngwladol Michael Harvey i'r Ysgol heddiw, i berfformio Ail Gainc y Mabinogi fel rhan o'r modiwl israddedig Pedeir Keinc y Mabinogi. Cafwyd trafodaeth frwd ar yr elfen berfformiadol yn y gainc, ac ar arwyddocâd y cof wrth drosglwyddo chwedl.
