Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Comisiynwyr Iaith

25/06/2008

Athro Colin Williams

Mae'r Athro Colin Williams wedi ennill grant ymchwil o £6337 gan yr Academi Brydeinig i archwilio systemau rheoleiddio iaith yn yr UDA, Canada ac Iwerddon.

Pwrpas yr ymchwil yw casglu tystiolaeth o ymarfer da a data ar yr amryw ffyrdd o sicrhau hawliau ieithyddol ac archwilio cwynion mewn cyd-destunau gwahanol. Bydd hwn yn sail i’r hyn a all ddigwydd yma yng Nghymru, ac efallai yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon pe bai Comisiynwyr Iaith yn cael eu hapwyntio. Mae’r gwaith maes yn dechrau ar 1af Medi 2008 ac yn parhau hyd at ddiwedd Ebrill 2010.