Gwaith Ymchwil yn Falensia
20/11/08
Bydd yr Athro Colin H Williams yn gwneud gwaith maes yn Falensia, Sbaen, dros yr wythnos nesaf, ac yn mynchu cyfarfodydd gyda phenaethiaid adrannau y Llywodraeth sydd yn gyfrifol am normaleiddio ieithyddol a therminoleg, ynghyd â sosio-ieithyddwyr ac addysgwyr ar draws Falensia.
Mae hwn yn rhan o'i brosiect i archwilio systemau rheoleiddio iaith dan nawdd yr Academi Brydeinig, a fydd yn parhau tan 2010.
Er bod ei brif brosiect ymchwil yn edrych ar y systemau sy'n bodoli yng Nghanada, yr UDA ac Iwerddon, mae sefyllfa ieithyddol Falensianeg/Catalaneg yn Sbaen yn rhoi enghraifft dda o sut y mae iaith swyddogol ranbarthol yn cael ei thrin fel iaith swyddogol y wladwriaeth leol - yn debyg iawn i sefyllfa'r iaith Gymraeg yma ym Mhrydain.
