Llwyddiant ein myfyrwyr yn yr Eisteddfod
11/08/08
Anni Llyn (h) Y Cymro
Cipiodd Anni Llyn y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Unawd Cerdd Dant 16 - 21 oed. Gellir gwylio ei pherfformiad buddugol drwy glicio yma
Enillodd Huw Alun Foulkes y wobr gyntaf yn yr Unawd Cerdd Dant dros 21 oed (cliciwch yma i weld ei berfformiad), a dyfarnwyd Gwobr Goffa Richard Burton i Sion Ifan (cliciwch yma).
Bu Heledd Wyn Jones hefyd yn fuddugol yn y Gystadleuaeth Slam Sgriptio (mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman) yn Theatr y Maes. Fel gwobr am ennill, bydd Heledd yn cael cyfle i ddatblygu'r ddrama ymhellach gyda tîm sgriptio y Sherman, a'i datblygu yn ddrama lwyfan, 1.20 munud.
Llongyfarchiadau gwresog iddynt oll!
