Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Y rhod yn troi

28/10/08

David Stansfield

Llongyfarchiadau mawr i David Stansfield, a raddiodd yma yn 2007, ar ei benodiad yn diwtor iaith yn ein Canolfan Cymraeg i Oedolion, lle'r oedd yn fyfyriwr sawl blwyddyn yn ôl.

Dilynodd y cyrsiau Wlpan, Estyn, Uwch a Meistroli cyn mynd yn ei flaen i wneud gradd BA yn Ysgol y Gymraeg yma yng Nghaerdydd.

Fel rhan o'i gynllun gradd, dilynodd y modiwl 'Cymraeg i Oedolion' a ddysgir mewn cydweithrediad â'r Ganolfan.

Dymunwn iddo bob llwyddiant yn ei swydd newydd.