Casglu arian at Gymorth Cristnogol
13/12/08

Roedd Swyddfa'r Ysgol yn brysurach nag arfer ddoe wrth i'r staff a'r myfyrwyr alw heibio am fins peis a charolau.
Casglwyd cyfanswm o £68 erbyn diwedd y dydd. Trwy raglen Anrhegion Nadolig Cymorth Cristnogol, bydd yr Ysgol yn talu am gyflog athro yn yr India am fis cyfan, ac yn prynu cwch gwenyn i ffarmwr yn Bolivia.
Diolch yn fawr iawn am bob cyfraniad.
