Ymchwil yn Awstralia
22/09/08
Fis Tachwedd eleni, bydd y Dr Diarmait Mac Giolla Chríost yn Awstralia fel Ysgolhaig ar Ymweliad yn yr Adran Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Sydney a'r Ysgol Ieithoedd ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Melbourne.
Bydd yn dilyn ei ddiddordeb ymchwil mewn eco-ieithyddiaeth a'r berthynas rhwng cynaladwyedd ac amrywiaeth ieithyddol byd-eang.
Yn ystod ei ymweliad bydd ef hefyd yn rhoi darlithoedd yn Sydney ar 'The Welsh Language and Television Production: Linguistic Behaviour and Economic Activity' (maes ymchwil un o'i fyfyrwyr PhD, Caroline Walters, a noddir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg); ac ym Melbourne ar 'The Irish Language and Symbolic Power: the Long War in the North of Ireland, Irish Republican Prisoners and the Jailtacht'.
