Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd 2007
Llongyfarchiadau i Hanna Hopwood, Lisa Williams, Catrin Fflur Jones a Caryl Pritchard o'r flwyddyn gyntaf ar ennill Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd 2007.
Gwerth yr ysgoloriaethau yw £3,000 yr un, ac fe'u dyfernir i'r ymgeiswyr a chanddynt y canlyniadau gorau yn eu arholiadau Safon Uwch. Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiant y myfyrwyr hyn ac yn dymuno'n dda iddynt yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n bleser cyhoeddi y bydd pedair ysgoloriaeth debyg ar gael yn 2008.
