Lansio cyfrolau a dwy wefan
10/12/2007
Cynhaliwyd derbyniad i ddathlu cynnyrch diweddaraf y staff, yng nghwmni Rhodri Glyn Thomas AC, Gweinidog dros Dreftadaeth.
Gwefannau
Rhyddiaith Gymraeg 1350-1425
Gwefan a noddwyd gan yr AHRC
Arweinydd y prosiect: Yr Athro Peter Wynn Thomas
Ymchwilwyr ar y prosiect: Dr Mark Smith a Dr Diana Luft
Gwefan yw hon sy’n cyflwyno corff chwiliadwy o ryddiaith yr Oesoedd Canol. Gellwch weld cynnwys 28 o lawysgrifau yma: rhyw 1.8 miliwn o eiriau. Mae’r llawysgrifau’n ymgorffori dros 100 o destunau ar wahanol feysydd. Adnodd amhrisiadwy ar gyfer ymchwil pellach i iaith, llenyddiaeth, hanes a diwylliant y cyfnod.
Cronfa Baledi: Mynegai Cyfrifiadurol i Faledi Argraffiedig y 18eg ganrif
Gwefan a noddwyd gan y Bwrdd Gwybodau Celtaidd.
Mynegai a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd (Dr E Wyn James) a Phrifysgol Bangor.
Cyhoeddiadau
Gwaith Rhys Goch Eryri [Cyfres Beirdd yr Uchelwyr], ed. Dylan Foster Evans (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru)
Glyndwr a Gobaith y Genedl, E. Wyn James (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Cyf)
Bardd Pengwern: Detholiad o Gerddi Jonathan Hughes, Llangollen (1721-1805), ed. Siwan Rosser (Cyhoeddiadau Barddas)
Language and Governance, ed. Colin H. Williams (University of Wales Press)
Linguistic Minorities in Democratic Context, Colin H. Williams (Palgrave Macmillan)
Language and the City, Diarmait Mac Giolla Chríost (Palgrave Macmillan)
