Ceri Elen yn ennill y Fedal Lenyddiaeth
28/05/2007
Llongyfarchiadau i Ceri Elen Morris, sy'n wreiddiol o Hen Golwyn, ar gipio'r Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gâr, 28 Mai 2007. Graddiodd Ceri Elen yn y dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd y llynedd, ac y mae ar hyn o bryd yn astudio Ysgrifennu Creadigol yn rhan o'i chwrs MA yn y Gymraeg yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd y beirniaid fod ei gwaith yn dangos 'dychymyg beiddgar' oedd yn atgoffa rhywun o weithiau Aled Jones Williams. Yn ôl Ceri, pobl yw ei diddordeb pennaf. Cyfaddefodd ei bod yn un o'r rhai hynny sy'n mwynhau gwylio pobl, ac mai gwylio pobl o gwmpas Caerdydd a oedd wedi ysbrydoli'r gwaith a enillodd y Fedal Lenyddiaeth iddi.
Ceri Elen oedd enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych yn 2006.
