Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Y Ferch ym Myd y Faled

15/12/2005

Nos Iau, 15 Rhagfyr cynhaliwyd derbyniad yn yr Ysgol i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd Dr Siwan Rosser: Y Ferch ym Myd y Faled: Delweddau o'r Ferch ym Maledi'r Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru).

Cafwyd noson bleserus iawn yng nghwmni'r baledwr Dafydd Idris a ganodd ddwy faled am ferched meddw ac anystywallt cyn cloi'r noson â charolau plygain tymhorol.

Dolenni cyswllt