Gradd Sengl
Gradd Sengl yn y Gymraeg
Blwyddyn 1
Darperir modiwlau sy'n trafod iaith, llenyddiaeth a diwylliant yn y flwyddyn gyntaf, ac y mae'r rhain yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer gradd yn y Gymraeg. Y mae dau lwybr yn y flwyddyn gyntaf, un ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf, a’r llall ar gyfer ail iaith.
Llwybr Iaith Gyntaf
Gall myfyrwyr astudio hyd at 80 credyd (sef dwy ran o dair o'u modiwlau Blwyddyn 1) yn y Gymraeg. Cynigir y pedwar modiwl a ganlyn (y mae’r tri cyntaf yn orfodol fel rheol):
- CY1742 Cyflwyniad i'r Gymraeg
- CY1743 Llenyddiaeth Gymraeg
- CY1744 O Destun i Draethawd
- CY1745 Cymru a'i Diwylliant
Yn ogystal ag astudio'r modiwlau uchod gall myfyrwyr ddewis dilyn rhai credydau mewn pwnc neu bynciau eraill. Er enghraifft, y mae'n bosibl astudio pedwar modiwl (80 credyd) yn y Gymraeg ynghyd â 40 credyd mewn pwnc neu bynciau eraill. Cynigir rhychwant eang o bynciau gan gynnwys Addysg, Ieithoedd Modern, Archaeoleg, Cerddoriaeth, Astudiaethau Crefyddol, Athroniaeth, Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth, Hanes, Mathemateg, Daearyddiaeth, a Newyddiaduraeth. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis parhau â’r pynciau a astudiwyd ar gyfer Safon A, tra bydd eraill yn dewis mentro i gyfeiriad newydd.
Llwybr Ail Iaith
Yn arferol bydd myfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg ar gyfer Safon A (ail iaith) yn dilyn y llwybr hwn. Fodd bynnag, penderfynir ar union lwybr y myfyriwr ar sail gallu ieithyddol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae myfyrwyr yn astudio 80 o gredydau yn y Gymraeg:
- CY1495 Sgiliau Cyfathrebu
- CY1699 Gloywi Iaith
- CY1081 Hanes Llenyddiaeth Gymraeg
- CY1584 Llenyddiaeth Gymraeg Fodern
Yn ychwanegol at hynny bydd myfyrwyr yn dilyn 40 o gredydau mewn pwnc neu bynciau eraill. Cynigir rhychwant eang o bynciau, er enghraifft Addysg, Ieithoedd Modern, Archaeoleg, Cerddoriaeth, Astudiaethau Crefyddol, Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth, Hanes, Mathemateg, Daearyddiaeth, a Newyddiaduraeth. Bydd rhai myfyrwyr yn dewis parhau â’r pynciau a astudiwyd ar gyfer Safon A, tra bydd eraill yn dewis mentro i gyfeiriad newydd.
Blwyddyn 2 a'r Flwyddyn Olaf
Mae Ysgol y Gymraeg yn ymfalchïo yn yr amrywiaeth o fodiwlau a gynigir i fyfyrwyr yn Blwyddyn 2 a'r Flwyddyn Olaf. Er mwyn sicrhau gafael gadarn ar yr iaith Gymraeg, mae gennym fodiwlau gorfodol yn canolbwyntio ar loywi iaith a mynegiant.
Ceir hefyd gnewyllyn o fodiwlau craidd, eang eu hystod, sydd â'r nod o sicrhau sylfaen gadarn yn natblygiad y Gymraeg a'i llenyddiaeth dros y canrifoedd. Ochr yn ochr â'r rhain, cynigir nifer helaeth o fodiwlau dewisol sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd sy'n gweddu i'w diddordebau. Er enghraifft, wrth ddethol modiwlau dewisol gellir dilyn trywydd llenyddol, un ai'n ganoloesol neu'n ddiweddar, neu drywydd ieithyddol, neu gyfuniad o fodiwlau ar draws y meysydd hynny. Trwy'r cyfan, rhown bwyslais ar fod yn gyfoes ac ar gynnig dewis a fydd yn rhoi cynllun gradd o safon academaidd uchel yn ogystal â bod yn berthnasol i ofynion galwedigaethol.
Modiwlau Craidd (gorfodol)
- CY2255 Cymraeg Cyfoes (Blwyddyn 2 iaith gyntaf)
- CY2400 Ysgrifennu Estynedig (Blwyddyn 2 ail iaith)
- CY4004 Sgiliau Cyfathrebu Uwch (modiwl dwbl) (Blwyddyn 2 ail iaith)
- CY4005 Gloywi Pellach (Blwyddyn 2 ail iaith)
- CY4009 Cymraeg y Gweithle (Blwyddyn olaf -iaith gyntaf ac ail iaith)
Modiwlau Craidd Anrhydedd Sengl
(gorfodol i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl, dewisol i rai Cydanrhydedd/LLB)
- CY3261 Cyflwyniad i Lenyddiaeth er 1900 (modiwl dwbl)
- CY3260 Cyflwyniad i Lenyddiaeth yr Oesoedd Canol (modiwl dwbl)
- CY2166 Cyflwyniad i Hanes yr Iaith (modiwl dwbl)
- CY2318 Dadeni a Diwygiad 1550 - 1900 (modiwl dwbl)
Modiwlau dewisol
- CY2126 Blas ar Ymchwil
- CY2617 Y Canu Arwrol
- CY2515 Y Ddrama Gyfoes
- CY3355 Cyfieithu Proffesiynol
- CY2345 Cyflwyniad i Astudiaethau Gwerin
- CY3595 Cymdeithaseg yr Wyddeleg
- CY3384 Cymraeg i Oedolion
- CY3540 Cymru ar Daith: Llên Teithio Gymraeg
- CY2126 Cynllunio Ieithyddol
- CY3447 Y Chwedl Arthuraidd
- CY3421 Dafydd ap Gwilym
- CY3404 Y Ferch yn yr Oesoedd Canol
- CY2349 I Fyd y Faled
- CY3422 'Y Ganrif Fawr'
- CY2670 Gwleidyddiaeth a Phropaganda yn Llenyddiaeth yr 20g
- CY3465 Hanes y Ddrama
- CY3591 Iaith, y Ddinas a Chymdeithas
- CY3593 Iaith, Gwleidyddiaeth a Gwrthdaro
- CY3633 Llenyddiaeth Plant
- CY2468 Llên y Ddinas
- CY3617 Merched a Llên yn y Cyfnod Modern
- CY3562 Pedeir Keinc y Mabinogi
- CY3951 Rhyddiaith Ddiweddar
- CY2678 Saunders Lewis
- CY2123 Sgriptio
- CY3324 Theori a Beirniadaeth Lenyddol
- CY3835 Williams Pantycelyn a'r Emyn
- CY2124 Ysgrifennu Creadigol
- CY3950 Canu'r Gymru Newydd: Barddoniaeth 1990-2010
- CY3560 Hunaniaeth a Diwylliant y Wladfa
- CY3880 Amlddiwylliannedd yn y Diwylliant Cymraeg
- CY2283 Cyflwyniad i Sosioieithyddiaeth
