Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

LLB Y Gyfraith a'r Gymraeg

Llyfrau Cymraeg

Mae Ysgol y Gyfraith ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn cynnig cwrs gradd anrhydedd yn arwain at LLB yn y Gyfraith a’r Gymraeg. Nod y radd arloesol hon yw cynhyrchu graddedigion cymwys i ymarfer eu gwybodaeth gyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg. Mae’r radd yn cwrdd â gofynion y cyrff proffesiynol ar gyfer mynd ymlaen i ymgymhwyso yn gyfreithiwr neu yn fargyfreithiwr. Sylwer mai cwrs ar gyfer myfyrwyr sydd â gradd 'B' neu well mewn Safon Uwch Iaith Gyntaf (neu sydd â Chymraeg o safon gyfatebol) yw hon, ac felly nid yw gan amlaf ar gael i fyfyrwyr ail iaith.

Blwyddyn 1

Bydd myfyrwyr yn astudio 120 credyd, drwy ddilyn y modiwlau gorfodol a ganlyn:

Blwyddyn 2

Bydd myfyrwyr yn astudio 120 credyd, gan gynnwys y modiwlau gorfodol a ganlyn:

Byddant hefyd yn astudio 90 credyd arall, gan gynnwys o leiaf 30 credyd o blith y modiwlau dewisol a gynigir yn y Gymraeg (gw. y rhestr isod) ac 20 credyd o blith y modiwlau dewisol a gynigir yn y Gyfraith. Yn rhan o hynny bydd cyfle i ddewis o blith y modiwlau y mae'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Bwrdd Safonau'r Bar yn eu hystyried yn greiddiol ar gyfer gradd gymhwyso yn y Gyfraith. Gellir astudio’r rhain fel modiwlau 20 credyd (y cod modiwl cyntaf isod) neu 30 credyd (yr ail god):

Blwyddyn Olaf

Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn astudio 120 credyd, gan gynnwys y modiwlau gorfodol a ganlyn:

Bydd rhaid iddynt astudio 90 credyd arall, gan gynnwys o leiaf 30 credyd o blith y modiwlau dewisol a gynigir yn y Gymraeg (gw. y rhestr isod isod) ac 20 credyd o blith y modiwlau dewisol a gynigir yn y Gyfraith (gan gynnwys y modiwlau craidd sydd ar gael ym Mlwyddyn 2 ac a nodir uchod). Bydd cyfle hefyd i ddewis y modiwl craidd proffesiynol olaf yn y Gyfraith (20/30 credyd), sef:

Modiwlau Dewisol y Gymraeg ym Mlynyddoedd 2 a'r Olaf y LLB

Mae’r modiwlau hyn yn rhai 10 credyd oni nodir yn wahanol. Ac eithrio CY2126 Blas ar Ymchwil (a gynigir yn flynyddol i Flwyddyn 3 yn unig), fe’u cynigir bob yn ail flwyddyn. Ceir rhagor o fanylion am gynnwys ac amseru’r modiwlau hyn yng nghatalog modiwlau Ysgol y Gymraeg.