Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Gradd Gydanrhydedd

Students in the School's grounds

Yn o gryfderau Caerdydd yw'r dewis eang o bynciau y gellir cyfuno'r Gymraeg â hwy ar gyfer gradd gydanrhydedd, a'r pynciau hynny yn cael eu dysgu mewn Ysgolion sy'n cael eu cydnabod yn rhai rhyngwladol eu safon. Dyma restr o'r pynciau y gellir eu cyfuno â'r Gymraeg:

(Cofiwch hefyd am y radd LLB yn y Gyfraith a'r Gymraeg.)

Blwyddyn 1

Darperir modiwlau sy'n trafod iaith, llenyddiaeth a diwylliant yn y flwyddyn gyntaf, ac y mae'r rhain yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer gradd yn y Gymraeg. Y mae dau lwybr yn y flwyddyn gyntaf, un ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf, a’r llall ar gyfer ail iaith.

Llwybr Iaith Gyntaf

Bydd myfyrwyr yn astudio 120 o gredydau rhwng y ddau bwnc. Gall myfyrwyr astudio hyd at 80 credyd yn y Gymraeg. Cynigir y pedwar modiwl a ganlyn:

Yn ychwanegol bydd myfyrwyr yn dilyn naill ai 40 neu 60 credyd yn yr ail bwnc a astudir ar gyfer y radd.

Llwybr Ail Iaith

Yn arferol bydd myfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg ar gyfer Safon A (ail iaith) yn dilyn y llwybr hwn. Fodd bynnag, penderfynir ar union lwybr y myfyriwr ar sail gallu ieithyddol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Mae myfyrwyr yn astudio 80 o gredydau yn y Gymraeg:

Yn ychwanegol at hynny bydd myfyrwyr yn dilyn 40 o gredydau yn yr ail bwnc a astudir ar gyfer y radd.

Blwyddyn 2 a'r Flwyddyn Olaf

Mae Ysgol y Gymraeg yn ymfalchïo yn yr amrywiaeth o fodiwlau a gynigir i fyfyrwyr yn Blwyddyn 2 a'r Flwyddyn Olaf. Er mwyn sicrhau gafael gadarn ar yr iaith Gymraeg, mae gennym fodiwlau gorfodol yn canolbwyntio ar loywi iaith a mynegiant.

Ochr yn ochr â'r rhain, cynigir rhychwant eang o fodiwlau dewisol sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr arbenigo mewn meysydd sy'n gweddu i'w diddordebau. Er enghraifft, wrth ddethol modiwlau dewisol gellir dilyn trywydd llenyddol, un ai'n ganoloesol neu'n ddiweddar, neu drywydd ieithyddol, neu gyfuniad o fodiwlau ar draws y meysydd hynny. Trwy'r cyfan, rhown bwyslais ar fod yn gyfoes ac ar gynnig dewis a fydd yn rhoi cynllun gradd o safon academaidd uchel yn ogystal â bod yn berthnasol i ofynion galwedigaethol.

Modiwlau Craidd (gorfodol)

Modiwlau Craidd Anrhydedd Sengl

(gorfodol i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl, dewisol i rai Cydanrhydedd/LLB)

Modiwlau dewisol