Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Mae dau fath o ysgoloriaeth yn ogystal â bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sy'n dymuno dod i Gaerdydd i astudio Cymraeg.
Ysgoloriaethau Prifysgol Caerdydd
Y mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig ysgoloriaethau arbennig ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgeisio am radd BA Anrhydedd Sengl yn y Gymraeg neu am radd BA Gydanrhydedd yn y Gymraeg ac un o'r pynciau canlynol: Almaeneg (myfyrwyr iaith-gyntaf yn unig), Archaeoleg ac Eidaleg. Gwerth y rhan fwyaf o'r ysgoloriaethau hyn yw £3,000. Caiff y myfyrwyr llwyddiannus £1,500 yn eu blwyddyn gyntaf, a thelir y £1,500 arall mewn rhandaliadau cyfartal ym mhob un o’r blynyddoedd sy’n weddill o’u cwrs (cyhyd â bod eu perfformiad academaidd yn dal i fod yn foddhaol). Bydd yr ysgoloriaethau yn cael eu dyfarnu gan y tiwtoriaid derbyn wrth i'r myfyrwyr ymrestru, a hynny ar sail rhagoriaeth academaidd yn eu harholiadau (e.e. Safon Uwch, Y Fagloriaeth Gymreig, etc). Nid oes angen gwneud cais arbennig ar eu cyfer. Ceir rhagor o wybodaeth ar safle Ysgoloriaethau Is-raddedig Prifysgol Caerdydd.
Ysgoloriaethau Ysgol y Gymraeg
Mae'r ail fath o ysgoloriaeth ar gael i ymgeiswyr ar gyfer y radd BA Anrhydedd Sengl yn y Gymraeg, y graddau BA Cydanrhydedd yn y Gymraeg ac unrhyw bwnc arall, a'r radd LLB yn y Gyfraith a'r Gymraeg.
Gwerth yr ysgoloriaethau hyn yw £400 ac fe'u telir i'r ymgeiswyr llwyddiannus yn ddau daliad o £200 yr un dros ddwy flynedd, y cyntaf ar ddechrau'r flwyddyn academaidd gyntaf a'r ail ar ddechrau'r ail flwyddyn. Dyfernir yr ysgoloriaethau ar sail rhagoriaeth mewn papur arholiad a osodir gan Ysgol y Gymraeg.
Cynhelir yr arholiad ar gyfer Ysgoloriaethau 2012 ar 5 Mawrth 2013. Gellir sefyll yr arholiad yn ysgol neu goleg yr ymgeisydd (gyda chaniatâd y Prifathro neu'r Pennaeth) neu fe ellir ei sefyll yn Ysgol y Gymraeg. Dwy awr yw hyd y papur arholiad.
Bydd cynnwys y papur ysgoloriaeth fel a ganlyn:
Ymgeiswyr Iaith-Gyntaf: cwestiwn ar gynnwys llenyddol y cwrs Safon Uwch ynghyd â gwerthfawrogiad.
Ymgeiswyr Ail-Iaith: cwestiwn ar gynnwys llenyddol y cwrs Safon Uwch ynghyd â chyfieithiad o'r Saesneg i'r Gymraeg.
Mae copïau o hen bapurau ysgoloriaeth ar gael yma:
Papur Ysgoloriaeth 2002: Ar Gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf [12 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2002: Ar Gyfer Llwybr Ail-Iaith [11 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2003: Ar Gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf [19 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2003: Ar Gyfer Llwybr Ail-Iaith [16 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2006: Ar Gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf [18 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2006: Ar Gyfer Llwybr Ail-Iaith [18 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2007: Ar Gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf [16 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2007: Ar Gyfer Llwybr Ail-Iaith [18 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2008: Ar Gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf [20 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2008: Ar Gyfer Llwybr Ail-Iaith [19 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2009: Ar Gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf [18 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2009: Ar Gyfer Llwybr Ail-Iaith[23 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2010: Ar Gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf [18 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2010: Ar Gyfer Llwybr Ail-Iaith [22 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2011: Ar Gyfer Myfyrwyr Iaith Gyntaf [96 KB]
Papur Ysgoloriaeth 2011: Ar Gyfer Llwybr Ail-Iaith [79KB]
Gofynnir i ddarpar ymgeiswyr anfon eu henwau i Ysgol y Gymraeg o flaen llaw, gan nodi ai myfyrwyr iaith gyntaf ai ail iaith ydynt, ac ymhle y dymunent sefyll yr arholiad, ar y ffurflen gais hon:
Ffurflen Gais ar gyfer Ysgoloriaethau Is-raddedig Ysgol y Gymraeg 2012 [325 KB]
Ni ellir dal dwy ysgoloriaeth ar yr un pryd. Os dyfernir dwy ysgoloriaeth i un unigolyn, bydd yn derbyn yr ysgoloriaeth uchaf ei gwerth (sef yr un a drafodir yn gyntaf uchod).
Bwrsariaethau Prifysgol Caerdydd
Mae Bwrsariaethau Prifysgol Caerdydd ar gael i fyfyrwyr israddedig amser-llawn sy’n dod o gartrefi incwm-is a fydd yn cychwyn ar eu hastudiaethau israddedig ym mis Medi. Mae gwerth y Bwrsariaethau yn amrywio o £300 i £1,000 y flwyddyn. Am ragor o fanylion ewch i safle Bwrsariaethau Is-raddedig Prifysgol Caerdydd.
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol newydd yn cynnig 150 o ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig a fydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ysgoloriaethau hyn werth £3000 dros dair blynedd ac maent ar gael i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a fydd yn cychwyn ar eu cyrsiau prifysgol yn 2013.
Mae dwy o'r ysgoloriaethau hyn wedi eu clustnodi ar gyfer myfyrwyr a fydd yn dod i astudio'r Gymraeg (gradd sengl) yma yng Nghaerdydd yn 2013. Dyfernir yr ysgoloriaethau ar sail rhagoriaeth mewn papur arholiad a osodir gan Ysgol y Gymraeg. Gosodir yr un papur arholiad ar gyfer yr ysgoloriaethau hyn ag a osodir ar gyfer ysgoloriaethau Ysgol y Gymraeg (gweler uchod).
Gellir lawrlwytho ffurflen gais ar wefan Coleg Cenedlaethol Cymraeg. Noder mai'r dyddiad cau yw 15 Ionawr 2013. Dylid dychwelyd y ffurflen gais at Lowri Johnston, swyddog cyswllt y coleg. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â swyddfa’r Ysgol neu ewch i wefan y Coleg.
Am fanylion pellach ynglŷn â materion derbyn, cysyllter ag:
Y Swyddog Derbyn
Prifysgol Caerdydd
Caerdydd
CF10 3EU
