Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Diwrnodau Agored

Os ydych yn gwneud cais i ddod i astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd byddwn gan amlaf yn eich gwahodd i un o'n diwrnodau agored. Rydym yn cynnal diwrnodau agored arbennig ar gyfer ymgeiswyr am y radd anrhydedd sengl, ar gyfer ymgeiswyr am raddau cydanrhydedd a hefyd ar gyfer ymgeiswyr am y radd LLB yn y Gyfraith a'r Gymraeg. Wrth gwrs, os ydych yn ymgeisio am fwy nag un radd yng Nghaerdydd fe allech gael gwahoddiad i ddau neu dri o'r diwrnodau agored hyn. Os nad ydych yn siwr ar ba ddiwrnod i ddod, cysylltwch â ni ac fe gawn drafod beth fyddai orau ichi.

Mae'n diwrnodau agored yn achlysuron anffurfiol a chyfeillgar. Ynddynt fe gewch wybodaeth bellach am fywyd yn y Brifysgol ac am natur y cyrsiau yr ydych wedi ymgeisio amdanynt. Maent yn gyfle i weld y Brifysgol ac i gwrdd â staff yr Ysgol a hefyd i siarad â rhai o'r myfyrwyr presennol.

Byddwn yn annog pawb sy'n gwneud cais i geisio dod i Ddiwrnod Agored gan eu bod yn gyfleoedd heb eu hail i gael blas ar fywyd myfyriwr yn Ysgol y Gymraeg.

Dyma ddyddiadau ein Diwrnodau Agored ar gyfer y flwyddyn 2009–10:

Diwrnod Agored Gradd Anrhydedd Sengl

24 Chwefror 2012

23 Mawrth 2012

Diwrnod Agored Gradd Gydanrhydedd

29 Chwefror 2012

21 Mawrth 2012

Diwrnod Agored Gradd LLB y Gyfraith a'r Gymraeg

Mawrth 2010

Diwrnod Ymweld Cyffredinol

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Diwrnodau Agored Cyffredinol hefyd (yn bennaf ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 13). Cynhelir 'Diwrnod Ymweld' eleni ar 9 Medi 2011. Ceir rhagor o wybodaeth ar safle Diwrnodau Agored y Brifysgol.

Diwrnod Agored Cyffredinol

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Diwrnodau Agored Cyffredinol hefyd (yn bennaf ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12). Cynhelir 'Diwrnod Ymweld' eleni ar 25 Ebrill 2012. Ceir rhagor o wybodaeth ar safle Diwrnodau Agored y Brifysgol.

Dolenni Prifysgol Caerdydd