Derbyn
Gofynion derbyn
Gwybodaeth am ofynion derbyn y Rhaglenni Gradd Is-raddedig a gynigir gan yr Ysgol.
Diwrnodau Agored
Os ydych yn gwneud cais i ddod i astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd byddwn gan amlaf yn eich gwahodd i un o'n diwrnodau agored. Rydym yn cynnal diwrnodau agored arbennig ar gyfer ymgeiswyr am y radd anrhydedd sengl, ar gyfer ymgeiswyr am raddau cydanrhydedd a hefyd ar gyfer ymgeiswyr am y radd LLB yn y Gyfraith a'r Gymraeg.
Cynadleddau Chweched Dosbarth
Bob blwyddyn, bydd Ysgol y Gymraeg yn cynnal cynadleddau undydd ar gyfer myfyrwyr blynyddoedd 12 a 13. Maent yn gyfle gwych i ymweld â'r Ysgol, i gwrdd â'r darlithwyr ac i glywed darlithoedd sy'n berthnasol i'r cyrsiau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol.
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Mae dau fath o ysgoloriaeth yn ogystal â bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sy'n dymuno dod i Gaerdydd i astudio Cymraeg.
