Profiad Gwaith a Gyrfaoedd ôl-raddedigion yr Ysgol
Profiad Gwaith
A ninnau wedi ein lleoli yn y Brifddinas, gyda’i holl sefydliadau a chwmnïau, mae cyfle gwych i’n myfyrwyr ôl-raddedig gael profiad gwaith. Mae’r Ysgol ei hun yn darparu cyfleoedd i gyflogi myfyrwyr:
- Prosiectau Ymchwil: Rhoddir, yn achlysurol, y cyfle i fyfyrwyr weithio yn rhan o brosiect ymchwil o dan arweiniad aelod o staff yr Ysgol.
- Cynnal seminarau a darlithio: Mae’r Ysgol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ôl-raddedig gynnal seminarau a gwneud peth darlithio yn yr Ysgol. Bydd myfyrwyr yn mynychu cyrsiau penodol ar sut i ddysgu ayb cyn ymgymryd ag unrhyw waith o’r fath. Er mwyn diogelu ansawdd yn ogystal â rhoi cymorth i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau dysgu, bydd monitro cyson.
- Cymraeg i Oedolion: Ceir cyfle i fynychu cyrsiau hyfforddi tiwtoriaid yn ein Canolfan Cymraeg i Oedolion ac yna i ddysgu dosbarthiadau.
Gyrfaoedd ôl-raddedigion yr Ysgol
Mae agoriadau gyrfaol amrywiol iawn ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn graddau uwch yn y Gymraeg.
Bob blwyddyn, bydd myfyrwyr ôl-raddedig o Ysgol y Gymraeg y mynd i swyddi sydd yn gysylltiedig â’r cyfryngau a chyfieithu. Bydd eraill yn dechrau ar yrfa ym myd gweinyddu, ac eraill yn mynd i ddysgu neu i ddarlithio. Bydd nifer sydd wedi gwneud MA yn aros yn yr Ysgol i astudio am radd uwch: MPhil, neu PhD.
Ond dim ond cyfran o’n myfyrwyr a fydd yn dilyn y llwybrau hynny: mae agoriadau eang iawn ar gyfer pobl a chanddynt gymwysterau yn y Gymraeg, gwybodaeth eang am Gymru a’i diwylliant, a sgiliau da wrth gyflwyno gwybodaeth, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Er enghraifft, mae cyn-fyfyrwyr o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn gweithio mewn sefydliadau megis Amgueddfa Werin Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, y Cynulliad Cenedlaethol, a’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae eraill yn gweithio ym myd marchnata a chyhoeddi llyfrau, rhai yn rheoli personél neu yn rheoli mewn siopau mawrion, a sawl un wedi ennill cymwysterau proffesiynol mewn meysydd megis gwaith cymdeithasol a’r gyfraith.
Yn sgîl Deddf yr Iaith Gymraeg a'r Cynulliad Cenedlaethol mae’r galw am bobl sy’n medru gweinyddu yn y Gymraeg ar bob lefel wedi cynyddu’n sylweddol.
