MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd
"Dewisais ddilyn yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd gan fod y strwythur yn fy ngalluogi i archwilio meysydd amrywiol; rwyf ar hyn o bryd yn astudio’r chwedl Breuddwyd Rhonabwy ac yn yr ail semester byddaf yn edrych ar agwedd o gynllunio ieithyddol. Dwi’n gwybod y byddaf yn elwa’n fawr o ddilyn yr MA, ac y bydd yn fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa ddelfrydol ym myd treftadaeth." Cadi Thomas |
![]() |
"Roedd hyblygrwydd y cwrs, a’r ffaith fy mod yn medru teilwra’r modiwlau i gyd-fynd â’m diddordebau yn apelio’n fawr ataf. Fe wnes i fwynhau astudio llenyddiaeth ddiweddar, beirniadaeth lenyddol ac ysgrifennu creadigol ar fy nghwrs gradd BA, ac mae’r MA yn rhoi cyfle i mi ymchwilio’n annibynnol ac i ymdrin yn ddyfnach â’r meysydd hyn. Rwy’n gobeithio mynd i ddysgu yn y dyfodol, ond does dim dwywaith fod yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaiddyn gosod sail gadarn i nifer o wahanol yrfaoedd." Lowri Elen Edwards |
![]() |
Beth yw’r radd hon?
Mae’r MA newydd hon mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn gyfle i archwilio agweddau amrywiol ar Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ac ennill cymhwyster ar lefel Meistr. Bydd cynnwys y radd yn cael ei deilwra yn ôl eich diddordebau ymchwil a’r arbenigedd a gynigir gan Ysgol y Gymraeg.
Mae arbenigedd y staff yn rhychwantu nifer o feysydd yn ymwneud ag Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd gan gynnwys:
- sosioieithyddiaeth y Gymraeg ac ieithoedd Celtaidd eraill
- llenyddiaeth ar hyd y canrifoedd
- theori a methodoleg cyfieithu
- hunaniaeth, ethnigrwydd ac amlddiwylliannedd
- ysgrifennu creadigol
- Cymry Gogledd America a'r Wladfa
- astudiaethau gwerin a diwylliant poblogaidd
Byddwn yn ymgynghori â chi ynglŷn â’r union ddewisiadau a fydd ar gael yn ystod y broses o wneud cais.
Mae’r radd hefyd yn cynnwys y modiwl ‘Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol’. Yma, dysgir sut i ddefnyddio ystod eang o ffynonellau, ymgyfarwyddo â methodolegau ymchwil a chyflwyno gwaith yn broffesiynol ac yn raenus. Ceir cyfle hefyd i gael profiad gwaith ymarferol.
Fe ellir astudio’r radd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg neu yn ddwyieithog. Bydd cyfle i fyfyrwyr nad ydynt yn rhugl eu Cymraeg llafar a/neu ysgrifenedig ddilyn cyrsiau dysgu a gloywi Cymraeg.
Beth yw hyd y cwrs?
Bydd y cwrs yn para un flwyddyn o’i ddilyn yn amser llawn neu ddwy flynedd o’i ddilyn yn rhan-amser.
Beth yw manteision y radd hon?
Mae Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhoi pwys mawr ar ymchwil flaengar o’r safon uchaf ac ar ddatblygu sgiliau ymchwil a sgiliau trosglwyddadwy. Yn ôl arolygon safonol, fe osodir yr Ysgol ar frig y tablau ar gyfer Astudiaethau Celtaidd.
Mae’r radd hon yn datblygu gwybodaeth a medrau a all arwain at amrywiaeth eang o swyddi mewn meysydd megis:
- y diwydiant treftadaeth
- y byd cyhoeddi
- newyddiaduraeth a’r cyfryngau
- marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
- y byd addysg, cyfieithu
- llyfrgelloedd, archifdai ac amgueddfeydd
- byd y Cynulliad a’r gwasanaeth sifil
- gweinyddu a datblygu polisi.
Sut y caiff y radd ei dysgu a’i hasesu?
Mae’r radd MA hon yn defnyddio sawl dull gwahanol o ddysgu ac addysgu. Yn ystod eich gradd, byddwch yn mynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai, yn cyflawni tasgau ymarferol, ac yn cwblhau darnau estynedig o waith annibynnol dan gyfarwyddyd tiwtor.
Yn Rhan 1, byddwch yn dilyn tri modiwl craidd gan gyflawni’r asesiadau hyn:
- Ymchwilio Academaidd a Phroffesiynol (40 credyd)
- cyflwyno papur seminar, profiad gwaith ac amlinelliad o brosiect ymchwil
- 1 pwnc o’ch dewis ym myd astudiaethau Cymreig a Cheltaidd (40 credyd)
- arolwg beirniadol (2,000 o eiriau) + traethawd (6,000 o eiriau)
- 1 pwnc o’ch dewis ym myd astudiaethau Cymreig a Cheltaidd (40 credyd)
- traethawd (8,000 o eiriau)
Yn Rhan 2, byddwch yn gweithio ar brosiect ymchwil estynedig (60 credyd)
- traethawd (12,000 o eiriau)


