Graddau Ymchwil
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yw un o'r canolfannau academaidd mwyaf blaengar ar gyfer ymchwil i'r Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i diwylliant. Mae diddordebau ymchwil ein staff yn amrywio o lenyddiaeth ganoloesol a theori feirniadol i agweddau Cymreig a rhyngwladol ar gynllunio ieithyddol. Oherwydd ein gwaith ymchwil gwreiddiol a threiddgar mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn ddewis poblogaidd i'r rheiny sydd â diddordeb mewn astudio am radd uwch.
Meysydd Ymchwil Graddau MPhil/PhD
- Astudiaethau Gwerin
- Astudiaethau Cymry America
- Caffael Ail Iaith/Cymraeg i Oedolion
- Cynllunio a Pholisi Iaith
- Hanes a Datblygiad y Gymraeg
- Llenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys Astudiaethau Cyfieithu, Beirniadaeth Destunol, Crefydd a Diwylliant Poblogaidd, Hil a Hunaniaeth, Naratif a Pherfformiad a Llenyddiaeth Plant
- Sosioieithyddiaeth
PhD
Hyd y Cwrs: 3 blynedd amser llawn a phum mlynedd rhan-amser
Asesiad: Cyflwyno thesis hyd at 80,000 o eiriau ac arholiad llafar (viva voce)
MPhil
Hyd y Cwrs: Blwyddyn amser llawn a dwy flynedd rhan-amser
Asesiad: Cyflwyno thesis rhwng 30,000 a 40,000 o eiriau ac arholiad llafar (viva voce)
MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol
Hyd y Cwrs: Blwyddyn amser llawn a dwy flynedd rhan-amser
Asesiad: Cyflwyno ffolio creadigol a thraethawd beirniadol rhwng 10,000 ac 20,000 o eiriau ac arholiad llafar (viva voce)
Y Profiad Cymreig
Mae Ysgol y Gymraeg yn croesawu myfyrwyr ôl-raddedig sydd am wneud eu hymchwil ac ysgrifennu eu traethawd hir yn y Saesneg. Fodd bynnag, mae croeso ichi fynychu cyrsiau Cymraeg er mwyn magu profiad o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau a gynigir gan yr Ysgol a chyrsiau Cymraeg a gynigir gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion (a leolir yn yr Ysgol).
