Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Gwybodaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Astudio Ôl-raddedig

Mae Ysgol y Gymraeg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o dramor sy’n dymuno astudio ar gyfer eu gradd MPhil (cwrs blwyddyn) neu PhD (cwrs 3 blynedd) drwy gyfrwng y Saesneg. Yn ddiweddar mae myfyrwyr ôl-raddedig yr Ysgol wedi dod o bedwar ban byd gan gynnwys Algeria, Patagonia, Catalonia, Tsiena, Iwerddon ac UDA.

Os nad y Saesneg yw eich mamiaith bydd angen ichi brofi pa mor rhugl ydych ar lafar ac yn ysgrifenedig cyn ichi gael eich derbyn ar Raglen MA, MPhil neu PhD. Mae angen sgôr o 6.5 o leiaf yn y Prawf Iaith Saesneg (IELTS). Noder y caiff unrhyw gymwysterau sy’n perthyn yn neilltuol i wlad arall eu hystyried yn ôl eu teilyngdod.

Fel arfer, dylai ymgeiswyr feddu ar radd dosbarth cyntaf neu 2:1 mewn pwnc perthnasol. (Mae hyn yn cyfateb i GPA o fwy na 3.0 yn UDA). Gellir cyfweld â myfyrwyr o dramor dros y ffôn neu’r we os nad ydynt yn medru mynychu cyfweliad yn yr Ysgol.

Y Profiad Cymreig      

Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch amser yng Nghymru mae croeso i fyfyrwyr fynychu cyrsiau Cymraeg yn ogystal â modiwlau sy’n ymdrin â diwylliant a llenyddiaeth Cymru. Ymhlith y modiwlau mae Diwylliant a Llên Gwerin Cymraeg, Cymru a’r Iaith Gymraeg, a Llenyddiaeth Gymraeg Fodern. Mae’r Ysgol a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion (a leolir yn yr Ysgol) yn cynnal cyrsiau Cymraeg.

Cyrsiau Haf y Ganolfan Cymraeg i Oedolion [402 KB]

Ffurflen Ymrestru [214 KB]

Canolfan Uwchefrydiau Cymry America

Sefydlwyd Canolfan Uwchefrydiau Cymry America yn 2001 er mwyn hybu astudio diwylliant, iaith, llên a hanes y Cymry ar gyfandiroedd America, ac yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, Canada a Phatagonia.Trwy drefnu seminarau, darlithoedd a chynadleddau, trwy gyhoeddiadau, a thrwy hybu cydweithio a chyd-drafod ysgolheigaidd, ei nod yw bod yn ganolbwynt i rwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion sy'n ymddiddori mewn maes astudio sydd ar gynnydd cyflym.
Gwefan Canolfan Uwchefrydiau Cymry America

Sut i wneud cais

Os hoffech ragor o wybodaeth mae croeso ichi gysylltu â’r Swyddfa Rhyngwladol neu Ysgol y Gymraeg.
Am ffurflen gais cysylltwch ag Ysgol y Gymraeg neu cliciwch yma.