Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

Nawdd Ariannol ac Ysgoloriaethau

Cliciwch yma am wybodaeth am y nawdd ariannol sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd ac am gyfleoedd pellach o nawdd allanol.

Ysgoloriaethau llawn ar gyfer MA/MPhil/PhD

Ysgoloriaethau PhD y Llywydd: (Ail)-ddehongli Amlddiwylliannedd

Mae'n bleser gan Ysgol y Gymraeg wahodd ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau'r Llywydd ar (Ail)-ddehongli Amlddiwylliannedd a ariennir gan Brifysgol Caerdydd. Bydd dwy ysgoloriaeth lawn (ffioedd a chostau byw) a dwy ysgoloriaeth ffioedd yn unig ar gael ar gyfer Hydref 2012. Rydym yn chwilio am raddedigion arloesol, annibynnol eu syniadau, a chanddynt ddiddordebau traws-ddisgyblaethol i ymchwilio i'r pwnc perthnasol, cymhleth ac amlochrog hwn.

Mae Ysgol y Gymraeg wedi llwyddo yn y gystadleuaeth hon yn y gorffennol gyda phrosiectau ymchwil PhD yn ymwneud â'r '"Arall" a Gwahaniaeth Diwylliannol yn Ffuglen ôl-ddiwydiannol De Cymru' a 'Cymreictod bob dydd mewn Cymunedau Mudol: Cymhariaeth Ddaearyddol'. Ymhlith y pynciau eraill posibl y mae'r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol, amlieithrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol; amlygu a pherfformio hunaniaethau crefyddol, ethnig a diwylliannol; a lleiafrifoedd yng Nghymru.

Os yw'r maes hwn o ddiddordeb i chi, cysylltwch â Ceren Roberts RobertsC1@caerdydd.ac.uk / 02920 874843 cyn gynted ag y bo modd er mwyn trafod sut i wneud cais. Mae manylion pellach am yr ysgoloriaethau ar gael yma.

Y dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb yw 31 Ionawr 2012, felly cysylltwch ar fyrder os hoffech fanylion pellach.

 

Ysgoloriaethau Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC)

Mae'n bleser gan Ysgol y Gymraeg wahodd ceisiadau ar gyfer Ysgoloriaethau PhD 2012 mewn Astudiaethau Celtaidd a ariennir gan yr AHRC. Bydd yr ysgoloriaethau'n cynnig cefnogaeth ariannol i astudio yn llawn amser (3 blynedd) neu'n rhan amser (5 mlynedd). Fel arfer, bydd ymgeiswyr yn meddu ar radd meistr, neu wrthi'n astudio ar gyfer gradd meistr ar hyn o bryd.

O safbwynt dewis prosiect ymchwil, mae'r posibiliadau'n eang. Gall Astudiaethau Celtaidd gwmpasu unrhyw agwedd ar iaith a llenyddiaeth y Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill a gall Ysgol y Gymraeg gynnig arweiniad arbenigol ar bynciau megis:
- llenyddiaeth ganoloesol a modern,
- beirniadaeth lenyddol,
- amlddiwylliannedd, rhywedd a hunaniaeth
- cyfieithu llenyddol a diwylliannol
- ysgrifennu creadigol
- caffael ail iaith
- cymdeithaseg y Gymraeg a'r Wyddeleg
- polisi a chynllunio ieithyddol

Am sgwrs bellach i drafod syniadau ymchwil a'r broses ymgeisio, cysylltwch â Dr Siwan Rosser rossersm@caerdydd.ac.uk / 02920 874843 cyn gynted ag y bo modd.

Y dyddiad cau yw 2 Mawrth 2012, felly cysylltwch ar fyrder os hoffech fanylion pellach. Nid oes rhaid bod gennych syniad penodol ar gyfer prosiect ymchwil wedi'i lunio'n barod, ond byddwn yn chwilio am frwdfrydedd, ymroddiad a photensial academaidd rhagorol.

Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd

Bydd manylion yr ysgoloriaethau hyn ar gyfer 2012-13 yn ymddangos yma maes o law.

 

Ysgoloriaethau Ysgol y Gymraeg

Ysgoloriaethau Celia Thomas a Glyn a May Ashton

Dyfernir yr ysgoloriaethau hyn i fyfyrwyr MA ac MPhil/PhD sydd yn ymchwilio i unrhyw faes yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Mae gwerth yr ysgoloriaethau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond yn arferol maent hyd at £3000. Mae hawl gan fyfyrwyr o dramor i wneud cais am yr ysgoloriaethau hyn.

Ysgoloriaeth Islwyn

Dyfernir yr ysgoloriaeth hon i fyfyrwyr MA ac MPhil/PhD sydd yn ymchwilio i lenyddiaeth y 19eg ganrif, hanes llên neu hanes crefydd yng Ngwent, neu waith Islwyn. Mae gwerth yr ysgoloriaeth yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ond yn arferol mae hyd at £3000. Mae hawl gan fyfyrwyr o dramor i wneud cais am yr ysgoloriaeth hon.

Ymgeiswyr

Bydd ymgeiswyr eisoes wedi cael eu derbyn ar gyfer astudio’n ôl-raddedig yn Ysgol y Gymraeg. Dylid cyflwyno ffurflen gais yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gofynnir i ymgeiswyr MA amlinellu maes eu hastudiaethau ynghyd â’u cynlluniau ar gyfer y traethawd hir. Gofynnir i ymgeiswyr MPhil/PhD gyflwyno teitl y traethawd arfaethedig ac egluro cwmpas ac arwyddocâd yr ymchwil.

Dyddiad cau blynyddol ar gyfer ysgoloriaethau Ysgol y Gymraeg: 30 Mehefin

Ysgoloriaethau Allanol

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen

Mae cymorth ar gael ar gyfer astudio ôl-raddedig ym mhob maes ond ar gyfer ymchwil yn bennaf. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch yma.

 

Am ragor o wybodaeth am ysgoloriaethau ôl-raddedig, cysylltwch â Ceren Roberts os gwelwch yn dda.

Ceren Roberts

Ffôn: +44(0)29 208 75659

 

Adnoddau Cysylltiedig